Rhif y ddeiseb: P-06-1387

Teitl y ddeiseb: Darparu cymorth dyngarol i Gaza

Geiriad y ddeiseb:

Mae Gaza a phobl Palesteina yn wynebu argyfwng dyngarol wrth i fomiau syrthio yn ddiwahân ar adeiladau preswyl, ysgolion, ysbytai, mosgiau, eglwysi, a gwersylloedd ffoaduriaid. Mae miloedd o sifiliaid diniwed, gan gynnwys dros 3,500 o blant, wedi cael eu lladd, gyda llawer mwy wedi cael eu hanafu’n ddifrifol neu eu dadleoli. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi rhoi cymorth dyngarol i Wcráin yn dilyn ymosodiad Rwsia yn 2022. Dylai nawr wneud popeth o fewn ei gallu i ddarparu cymorth i bobl Palesteina.

 

 


1.        Y cefndir

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi rhoi cymorth dyngarol mewn ymateb i apeliadau rhyngwladol, megis taliad o £100,000 i'r Pwyllgor Argyfyngau Brys (DEC) Apêl Llifogydd Pacistan yn 2022-23 a £300,000 i Apêl Daeargryn Türkiye a Syria y Pwyllgor i bobl yr effeithiodd y daeargrynfeydd arnynt ym mis Chwefror 2023.

Fel y caiff ei gydnabod yn y ddeiseb, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cymorth dyngarol hefyd i Wcráin yn dilyn goresgyniad Rwsia ar 28 Chwefror 2022. Ar 1 Mawrth 2022, cyhoeddodd y Prif Weinidog £4 miliwn o gymorth “ariannol a dyngarol”. Dywedodd hefyd fod Llywodraeth Cymru yn:

§  Asesu pa offer meddygol dros ben fyddai fwyaf defnyddiol i’w darparu;

§  Yn barod i groesawu pobl sydd angen gadael Wcráin ac sydd eisiau gwneud hynny;

§  Annog Llywodraeth y DU i'w gwneud yn haws i ddinasyddion Wcráin ddod i'r DU; ac

§  Annog unrhyw un sy'n gallu rhoi i'r Groes Goch Brydeinig, UNICEF UK neu UNHCR UK, i wneud hynny.

Hyd yma, nid yw Llywodraeth Cymru wedi darparu cyfraniad ariannol o gymorth dyngarol. Mae ei hymateb wedi canolbwyntio ar ddarparu cymorth cydlyniant cymunedol, ac archwilio llwybrau posibl i'r DU ar gyfer gwladolion Prydain sydd wedi’u dal yn y gwrthdaro mewn cyfarfodydd rhynglywodraethol.

Ar 14 Tachwedd 2023, pleidleisiodd Llywodraeth Cymru o blaid cynnig y Senedd i gydsynio i reoliadau Llywodraeth y DU yn ymestyn cymhwysedd budd-daliadau tai y DU i'r rhai sy'n ffoi rhag y gwrthdaro rhwng Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus (mae amodau'n berthnasol). 

Yn ôl Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin, mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo £87 miliwn ar gyfer 2023-24 i'r Tiriogaethau Palesteinaidd dan Oresgyniad, sy'n cynnwys £60 miliwn a gyhoeddwyd drwy gydol mis Hydref a mis Tachwedd 2023. Mae Llywodraeth Yr Alban wedi darparu £750,000 i Asiantaeth Rhyddhad a Gwaith y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Ffoaduriaid Palesteina yn y Dwyrain Agos (UNRWA) Apêl Flash.

2.     Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

2.1.          Ymateb i alwadau Plaid Cymru i ddarparu cymorth

Yn ystod Cwestiynau i'r Prif Weinidog ar 17 Hydref 2023, gofynnodd Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS, a fyddai Llywodraeth Cymru yn gwneud "cyfraniad, yn cynnwys cyfraniad ariannol, tuag at yr ymgyrch dyngarol yna yn Gaza".

Disgrifiodd y Prif Weinidog ymateb Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y posibilrwydd o ddefnyddio ei Fforwm Cymunedau Ffydd, a'i bod yn "awyddus" i helpu pobl yng Nghymru a chefnogi gweithredu ar lefel y DU. Ni chyfeiriodd yn benodol at wneud cyfraniad ariannol.

Ar 24 Hydref 2023, aeth Mabon ap Gwynfor MS ati i ailadrodd galwad Plaid Cymru i Lywodraeth Cymru ddarparu cymorth dyngarol, a gofyn am sicrwydd ei bod yn "defnyddio pob grym sydd ganddi” i alw am gadoediad. Ymatebodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths AS:

Gallaf i eich sicrhau chi fod Llywodraeth Cymru yn cymryd y camau yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw.

Ailadroddodd fod Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â grwpiau ffydd yng Nghymru i ddarparu cefnogaeth. Mewn ymateb i sylw Nation.Cymru yn dilyn y drafodaeth, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

The First Minister has strongly condemned the appalling attacks carried out by Hamas and expressed his deep concern about the humanitarian situation in Gaza. He has called on the international community to come together to work again for a lasting peace.

Yn ystod dadl Plaid Cymru ar y gwrthdaro yn Israel a Gaza a arweiniodd at bleidlais o blaid cadoediad, amlinellodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol y gefnogaeth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru:

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflawni'r cyfrifoldebau yn ein dwylo drwy wneud popeth yn ein gallu i gefnogi diogelwch cymunedol a hyrwyddo cydlyniant.

Mae hyn yn cynnwys:

§  Cyfarfodydd a gynhaliwyd gan y Gweinidog a'r Prif Weinidog â chynrychiolwyr cymunedau Mwslimaidd ac Iddewig yng Nghymru.

§  Cyfarfodydd â chynrychiolwyr y Fforwm Cymunedau Ffydd ac ymweld ag addoldai i glywed yn uniongyrchol gan aelodau’r cymunedau yng Nghymru a gaiff eu heffeithio.

§  Bod yn glir “nad oes lle i gasineb yng Nghymru,  a rhaid i bawb ohonom chwarae ein rhan a sefyll yn erbyn rhagfarn.". Esboniodd y Gweinidog y camau a gymerwyd gyda'r Gweinidog Addysg i drafod ag arweinwyr ffydd sut y gall Llywodraeth Cymru wneud mwy i hyrwyddo dealltwriaeth a mynd i'r afael â gwrthsemitiaeth, Islamoffobia a phob math o gasineb sy'n seiliedig ar ffydd mewn lleoliadau addysg.

§  Amlinellodd y Gweinidog sut mae canolfan gymorth troseddau casineb Cymru, a gaiff ei rhedeg gan Cymorth i Ddioddefwyr Cymru, yn gweithio ochr yn ochr â'r pedwar heddlu i fonitro cynnydd mewn troseddau casineb gwrthsemitig ac Islamoffobig yng Nghymru.

§  Gweithgareddau a gynhelir fel rhan o raglen cydlyniant cymunedol Llywodraeth Cymru, megis monitro tensiynau cymunedol a chysylltu ag arweinwyr ffydd.

2.2.        Yr ymateb i'r ddeiseb

Wrth ymateb i’r ddeiseb ar 17 Ionawr 2024, dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol:

Mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod yn rhaid cael ymdeimlad newydd o frys ymhlith y gymuned ryngwladol i sicrhau cadoediad llawn a pharhaol, er mwyn dod â'r lefelau annioddefol o drais a dioddefaint i ben cyn gynted â phosibl. Rhaid i'r rhoi'r gorau i drais fod yn llwyfan hanfodol ar gyfer proses wleidyddol hirdymor a phenderfynol y gallwn weithio tuag ati i sefydlu datrysiad dwy wladwriaeth yn seiliedig ar wladwriaeth Balesteiniaidd sofran ac Israel ddiogel.

Gan gyfeirio at ddarparu cymorth dyngarol i Gaza, cadarnhaodd y Gweinidog fod Llywodraeth Cymru, yn y gorffennol, wedi cyfrannu at nifer o apeliadau a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Argyfyngau Brys (DEC). Mae'r Pwyllgor Argyfyngau Brys yn monitro'r sefyllfa ddyngarol yn Gaza ac mae'n asesu a yw'n bodloni ei dri brif faen prawf ar gyfer lansio apêl. Tynnodd y Gweinidog sylw at un maen prawf allweddol, sef:

… member agencies can effectively spend money raised and they believe that only a lasting ceasefire would allow them the opportunity to effectively provide the desperately needed aid to the Palestinians living in Gaza.

Dywedodd y Gweinidog y bydd Llywodraeth Cymru "yn parhau i ganolbwyntio ar y cyfrifoldebau hynny yn ein dwylo nii," gan gynnwys mynd i'r afael ag Islamoffobia a gwrthsemitiaeth, "er mwyn sicrhau y gall pob cymuned fyw gyda'i gilydd yng Nghymru yn heddychlon a chyda pharch at ei gilydd".  

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.